Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 3 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 15.20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Keith Davies AC Dafydd Elis-Thomas AC Rhun ap Iorwerth AC Julie James AC Ann Jones AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Minister for Economy, Science and Transport Matthew Brown, Communities Investment Fund Manager, WCVA Professor Andrew Davies, Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru Gary Davies, Llywodraeth Cymru Phil Fiander, Director of Programmes, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru Yr Athro Colin Riordan, Prifysgol Caerdydd Anne-Marie Rogan, YMCA Abertawe Derek Walker, Canolfan Cydweithredol Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Claire Morris (Ail Clerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC, Byron Davies AC a Mick Antoniw AC. Dirprwyodd Ann Jones AC ar ran Mick Antoniw AC.
2 Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 11) (09.15-09.45)
2.1.Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd.
3 Mentrau Cymdeithasol (10.00-11.00)
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Matthew Brown, Rheolwr Buddsoddi mewn Cymunedau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; ac Anne-Marie Rogan, Prif Weithredwr YMCA Abertawe.
4 Mentrau Cymdeithasol (11.00-12.00)
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru; Yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru; a Derek Walker, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cydweithredol Cymru.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dangosyddion perfformiad ar gyfer cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau cymdeithasol yn ei diweddariad chwe misol i'r Pwyllgor.
5 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi (14.00-15.00)
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. Cawsant eu cefnogi gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a Gary Davies, Pennaeth yr Is-adran Materion Allanol, Llywodraeth Cymru Ewrop a.
5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
- Nodyn ar gyfanswm nifer staff UKTI sydd wedi'u lleoli'n barhaol yng Nghymru a sut mae'r niferoedd hyn yn cymharu â'r sefyllfa yn yr Alban;
- Nodyn ar y gyfran o gwmnïau o dramor sy'n gweithredu yng Nghymru ac sy'n derbyn cymorth ôl-ofal uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r rhai sy'n cael cefnogaeth gan UKTI. Hefyd, syniad o'r cwmnïau hynny y mae'r Llywodraeth mewn cysylltiad â hwy yn rheolaidd, h.y. o leiaf unwaith bob chwe mis, a'r rhai y mae'n cysylltu â hwy yn llai rheolaidd;
- Nodyn ar ddull gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru o ran cofnodi a chyhoeddi ffigurau mewnfuddsoddi yng ngoleuni newidiadau yn y diffiniad a ddefnyddir gan UKTI (h.y. 10 y cant perchnogaeth dramor, yn hytrach na 50 y cant) a sut mae'r trothwy ar gyfer canran perchnogaeth dramor a ddefnyddir gan UKTI yn cymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a ganlyn:
Papur preifat (rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Strategaeth Technoleg)
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymweliad fel rhan o'r ymchwiliad i dwristiaeth, sgwrs gwe gyda myfyrwyr addysg bellach ac uwch a sgwrs gwe ar faterion yn ymwneud â'r rhywiau a phynciau STEM.